Datasets:
Cerdyn Data — toxigen-data (Cymraeg)
Cyfieithiad Cymraeg o set werthuso ToxiGen, set ddata sy'n cael ei defnyddio i archwilio sut mae Modelau Iaith Mawr (LLMs) yn ymdrin â iaith casineb ymhlyg ac iaith ragfarnllyd. Mae'r set wreiddiol, a grëwyd gan ymchwilwyr o Microsoft Research, MIT, AI2 a Phrifysgol Washington (Hartvigsen et al., ACL 2022), yn cynnwys datganiadau gwenwynig a niwtral wedi'u cynhyrchu gan beiriant am 13 grŵp lleiafrifol, gan ganolbwyntio ar gasineb cynnil nad yw'n dibynnu ar regfeydd na sarhad amlwg.
Mae'r fersiwn Gymraeg hon, a baratowyd gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor (techiaith), yn galluogi gwerthuso modelau iaith Cymraeg yn erbyn yr un meincnodau diogelwch a thegwch ag a ddefnyddir ar gyfer y Saesneg, gan helpu i sicrhau nad yw datblygu LLM Cymraeg yn gadael bylchau yn y gwaith o liniaru ar niwed ieithyddol.
Rhybudd cynnwys: O reidrwydd, mae'r set ddata'n cynnwys enghreifftiau o iaith casineb a deunydd a allai beri tramgwydd. Bwriedir hi at ddibenion ymchwil yn unig.
Dataset Card — toxigen-data (Welsh)
A Welsh translation of the ToxiGen evaluation set, used to probe how Large Language Models (LLMs) handle implicit hate speech and biased language. The original dataset, created by researchers from Microsoft Research, MIT, AI2 and the University of Washington (Hartvigsen et al., ACL 2022), comprises machine-generated toxic and benign statements about 13 minority groups, focused on subtle hate that does not rely on slurs or overt profanity.
This Welsh version, prepared by the Language Technologies Unit at Bangor University (techiaith), allows Welsh-language models to be assessed against the same safety and fairness benchmarks used for English, helping to ensure that Welsh LLM development does not leave gaps in the work of mitigating linguistic harm.
Content warning: By its nature, the dataset contains examples of hate speech and material that may cause offence. It is intended for research use only.
- Downloads last month
- -